Bwyty 1891
Bwyty a bar llawr cyntaf cyfoes a chwaethus wedi’i leoli ar lan y dŵr yn Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl.
Amdanom ni
Lleolir bwyty a bar 1891 ar lawr cyntaf Theatr Pafiliwn Y Rhyl, sydd â golygfeydd hyfryd o arfordir Gogledd Cymru, ar draws i Eryri a thu hwnt.
Rydym yn cynnig cymysgedd o fwyd eithriadol a lleol a gwasanaeth gwych – i gyd yn ein bwyty newydd cyfforddus cyfoes a thrwsiadus a bar.
Os ydych eisiau diod i ymlacio, swper hir, swper cyn y theatr neu ginio sydyn, mae gan 1891 rywbeth i bawb.
Pwy ydym ni
Bwyty chwaethus ar lan y môr y Rhyl.
Mae’r enw 1891 yn cyfeirio at y flwyddyn y codwyd y Pafiliwn cyntaf ar bromenâd y dref. Ar yr adeg honno, roedd wedi’i leoli ar y Promenâd ar ben draw Pier y Rhyl, ond cafodd ei ddinistrio gan dân yn 1901.
Adeiladwyd yr ail Bafiliwn yn 1908 ac adeiladwyd yr un arall yn ei le yn 1991 sef y Theatr Pafiliwn Y Rhyl presennol. Mae’r theatr, sydd yn eistedd dros 1,000 o bobl yn cynnig ystod eang o gynyrchiadau sy’n ymweld, gan gynnwys Mrs Brown’s Boys, Chicago, Little Mix a John Bishop gan enwi ond ychydig. Cyngor Sir Ddinbych sydd y rheoli’r theatr a 1891.
Tarddiad lleol
Mae ein Prif Gogydd, Aaron Broster, yn ymfalchïo o gael cynhwysion o ansawdd o fewn radiws 30 milltir o’r bwyty, neu os y gallai o Ogledd Cymru. Bydd Aaron a’i dîm yn gweini bwydlen steil bistro gyda dewis o brydau rhagorol ac o ansawdd uchel. Byddwch hyd yn oed yn sylwi bod rhai o’r prydau wedi’u henwi ar ôl tirnodau. Bydd 1891 yn cynnig rhywbeth i bawb, a gellir darparu ar gyfer anghenion deietegol penodol.